Mae gyrrwr wedi’i ladd wedi i’w gar wyro oddi ar y ffordd a tharo i mewn i fanc.

Bu farw’r dyn, yn ei 30au, yn y fan a’r lle yn dilyn y ddamwain ar draffordd yr M26 yn Kemsing, Kent.

Y gyrrwr oedd yr unig deithiwr yn y car Citröen C2 llwyd a wyrodd oddi ar y ffordd toc cyn 5yp ddoe..