Arglwydd Carey - "gwaharddwch nhw a'u sgiliau barbaraidd"
Dylai llywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd eu pasborts oddi ar bobol sy’n mynd i wledydd tramor i gymryd rhan mewn gweithredoedd terfysgol.

Dyna farn yr Arglwydd Carey, cyn-Archesgob Caergaint, sydd wedi ysgrifnenu erthygl ym mhapur newydd The Mail on Sunday heddiw.

Ac meddai ymhellach: dylai’r Prydeinwyr hynny sy’n ymladd dros IS yn Irac a Syria hefyd golli eu pasborts.

“Fe ddylen nhw golli’r fraint o deithio dan basport Prydeinig,” meddai yn yr erthygl. “A ddylen nhw, yn bendant, ddim cael teithio’n ôl i wledydd Prydain gyda’r sgiliau barbaraidd a gwaetgar y maen nhw wedi’u dysgu yno.”