Fe gafodd dyn 58 mlwydd oed ei achub wedi iddo fynd i drafferthion ar ei gwch pleser ei hun ger Ynys Seiriol.
Fe ddigwyddodd y ddamwain brynhawn ddoe, wedi i’r dyn anafu ei gefn yn ddifrifol ar ôl llithro.
Roedd cryn dorf yn gwylio wrth i fad achub Biwmares gael ei lawnsio er mwyn dod â’r dyn i’r lan yn ddiogel.
Yna, fe gafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gan hofrennydd Sea King o’r Fali.