Mae beiciwr modur wedi’i ladd wrth geisio ennill ei le yn Grand Prix Ynys Manaw 2014.

Bu farw Tim Moorhead, 50, wedi iddo daro i mewn i’r Black Hut ar adran fynyddig y cwrs tua 8.05yh nos Wener.

Dyma’r trydydd tro i’r gwr priod o Whitstable, Kent, gystadlu yn y ras, ar ôl gwneud ei ymddangosiad cynta’ yn 2012.

“Mae’r Manx Motor Cycle Club yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu a ffrindiau Tim,” meddai datganiad gan drefnwyr y ras heddiw.

“Mae’r crwner wedi’i hysbysu, ac mae ymchwiliad ar y gweill i geisio darganfod beth oedd achos y ddamwain.”

Dyma’r ail drasiedi i daro’r ras o fewn ychydig ddyddiau. Ddydd Mawrth diwetha’, bu farw’r rasiwr profiadol, Stephen Mcllvenna, 39 wrth geisio ennill ei le yn ras 2014.