Aled Sion Davies yn dathlu'r aur
Daeth “y Pencampwriaethau Athletau Ewrop yr IPC gorau erioed” i ben gyda noson o fedalau i Gymru yn Abertawe heno.
Aled Sion Davies oedd y cyntaf o blith y Cymry i gipio medal heddiw, wrth gael buddugoliaeth fawr yn y taflu disgen F42, a sicrhau ei ail fedal aur yr wythnos hon yn dilyn ei lwyddiant yn y siot.
Cipiodd y fuddugoliaeth gyda’i bedwerydd tafliad, gyda phellter o 46.46 metr – pum metr a hanner ymhellach nag ymgais gorau enillydd y fedal arian, Tom Habschied o Lwcsembwrg (40.98 metr).
Ond fe fyddai unrhyw un o’i dri thafliad dilys allan o chwech yn ddigon da i gipio’r fedal aur, wrth iddo gofnodi pellteroedd o 45.57m a 46.39m gyda’i ddau dafliad dilys arall.
Enillydd y fedal efydd oedd Dechko Ovcharov o Fwlgaria (38.22 metr).
Dywedodd wrth golwg360 heno: “Fi mor hapus i gael dwy fedal aur…
“O’n i’n gwybod, beth bynnag o’n i’n gwneud, fod e’n gallu bod yn well nag unrhyw un arall ac yn y rownd gynta, wnes i guro ac o’n i’n gwybod ’mod i’n gallu ennill efo hwnna.”
Kyron Duke
Tra bod Aled Sion Davies yn prysur ennill ei fedal aur, roedd ei bartner hyfforddi Kyron Duke yn cipio’i fedal arian yn y siot yn nosbarth F41 ar y maes drws nesaf.
Aeth tafliad gorau Duke 11.96 metr i sicrhau ail fedal arian yr wythnos i’r taflwr o Gwmbrân, yn dilyn ei lwyddiant yn y taflu gwaywffon ddydd Mercher.
Bartosz Tyszkowski – enillydd y fedal efydd ddydd Mercher yn y taflu gwaywffon – gipiodd y fedal aur gyda thafliad gorau o 12.83 metr, tra bod Dmitry Dushkin wedi ennill medal efydd am dafliad gorau o 10.30 metr.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, dywedodd wrth golwg360: “Dwi’n teimlo’n anhygoel. Roedd fy nhafliad gorau’n agos iawn at fy mherfformiad personol gorau…
“Allwn i ddim bod wedi gofyn am well na dwy fedal arian.
“Dyma’r dorf orau allech chi gael – y dorf Gymreig sy ddeg gwaith gwell nag unrhyw dorf arall.
“Ro’n i’n taflu nesa at Aled, mae e’n bartner hyfforddi i fi, dw i’n ei weld e bron bob dydd ac roedd y dorf y tu cefn i’r ddau ohonon ni – roedd e’n wych.”
Cymry’n cyfrannu at y ras gyfnewid
Roedd dwy Gymraes yn nhîm Prydain yn y ras gyfnewid 4×100 metr yn nosbarth T35-T38 i ferched heno, wrth i Olivia Breen a Jenny McLoughlin ymuno â Sophie Hahn a Bethany Woodward i gipio medal arian wrth orffen y ras mewn 53.84 eiliad i dorri record Prydain.
Cafodd Olivia Breen ddechrau cadarn i’r ras a Jenny McLoughlin gafodd y cyfrifoldeb o orffen y ras wrth i Rwsia gipio’r fedal aur.
Yr Almaen orffennodd yn drydydd heb ennill medal gan mai tri thîm yn unig oedd yn y ras.
Dywedodd Olivia Breen wrth golwg360: “Fe ges i ddechreuad da ac fe ges i fy atgoffa o redeg yn Llundain yn y Gemau Paralympaidd ac ro’n i’n hapus iawn.
“Mae’r gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.”
Ychwanegodd Jenny McLoughlin: “Ro’n i’n trio cadw’r Rwsiad draw mor hir â phosib ond mae hi’n wych.
“Ry’n ni ond wedi bod gyda’n gilydd am amser eitha byr felly ymhen ychydig flynyddoedd fe allen ni fod yn gystadleuol dros ben.
Yn ystod y seremoni i gloi’r wythnos, dywedodd pennaeth yr IPC, Ryan Montgomery mai rhain oedd y Pencampwriaethau gorau erioed yn hanes y digwyddiad.