Alfreton 2 – 3 Wrecsam
Er gwaethaf ildio ym mhum munud cyntaf y gêm, daeth Wrecsam yn ôl i gipio buddugoliaeth werthfawr yn Alfreton heddiw.
Ar ôl i Joe Ironside sgorio’n fuan i’r tîm cartref, rhoddodd tair gôl yn yr hanner cyntaf y fantais i dîm y Cae Ras.
Sgoriodd Louis Moult wedi 13 munud i ddod â’r sgôr yn gyfartal cyn i Blaine Hudson rwydo i roi Wrecsam ar y blaen wedi 27 munud.
Dyblwyd y fantais wrth i Connor Jennings sgorio o groesiad Wes York ychydig cyn yr egwyl.
Er i Paul Clayton rwydo i’r tîm cartref gyda chwarter awr yn weddill, llwyddodd Wrecsam i’w hatal rhag dod â’r sgôr yn gyfartal cyn y chiban olaf.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Wrecsam i’r pumed safle yn y Gynghres, a i safleoedd y gemau ail gyfle.