Mae llosgfynydd Bardarbunga yng Ngwlad yr Iâ wedi dechrau ffrwydro o dan rhewlif mwya’r wlad, gan ysgwyd yr ardal gyfan gyda miloedd o ddaeargrynfeydd.

Mae’r wlad hefyd wedi rhybuddio am y peryg o “gymylau sylweddol o ludw” fydd yn cael eu rhyddhau i’r atmosffêr yn ystod y cyfnod.

Mae Swyddfa’r Met yn dweud fod data sy’n cael ei gasglu yn ardal y llosgfynydd yn cadarnhau fod y gweithgaredd seismig yno yn prysur doddi rhew o dan rewlif Vatnajokull.

Does yna ddim pobol yn byw yn yr ardal sydd 200 milltir i’r dwyrain o’r brifddinas, Reykjavik.