Fe fydd dinesydd Prydeinig sy’n byw yn Sierra Leone ac sydd wedi profi’n bositif i fod yn diodde’ o Ebola, yn cael ei drin mewn ysbyty yn Llundain – os y bydd yn dychwelyd i wledydd Prydain.

Mae’n debyg mai heddiw y bydd yr awdurdodau’n penderfynu p’un ai ydyn nhw am hedfan y dioddefwr adref, neu y bydd o’n aros yn Sierra Leone.

Dyma’r tro cynta’ i ddinesydd Prydeinig ddal y clefyd nad oes gwella arno.