James Foley
Fe fydd offeren yn cael ei chynnal er cof am y newyddiadurwr o America a ddienyddiwyd gan eithafwyr Islamaidd yr wythnos hon.
Fe gafodd James Foley ei herwgipio ar Ddiwrnod Diolchgarwch (Thanksgiving) yn 2012, tra’n gweithio yn Syria.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd fideo o un o aelodau’r Islamic State yn ei ladd, ei phostio ar y we. Roedd hynny, meddai IS, er mwyn dial am ymosodiadau’r Unol Daleithiau yng ngogledd Irac.
Mae’r arlywydd Barack Obama wedi galw Foley yn “arwr” am iddo adrodd am hynt a helynt pobol sydd wedi’u gorthrymu mewn ardaloedd o ryfel fel Syria a Libya.
Fe fu cyrch gan yr Unol Daleithiau yr ha’ hwn er mwyn ceisio achub James Foley a gwystlon eraill sy’n cael eu dal yn gaeth gan wrthryfelwyr yn Syria a gogledd Irac.
Heddiw, fe fydd offeren er cof am James Foley yn cael ei chynnal yn eglwys ei dre’ enedigol, yn Rochester, New Hampshire.