Dwy gêm â chwaraewyd yn Uwch Gynghrair Cymru heddiw gan fod gêm Airbus a Phort Talbot wedi’i gohirio.

Caerfyrddin 1 – 0 Y Rhyl

Roedd gôl wedi 39 munud gan Luke Cummings yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerfyrddin yn erbyn Y Rhyl heddiw.

Cafodd Levi Mackin ei yrru o’r cae i’r ymwelwyr wedi dim ond deuddeg munud ar ddiwrnod siomedig i’r Rhyl.

Y Drenewydd 1 – 2 Y Bala

Munud yn unig gymerodd hi i’r Bala sgorio gyntaf ar Barc Latham, gyda Ryan Valentine yn rhwydo.

Llwyddodd y Drenewydd i ddod â’r sgôr yn gyfartal wedi 27 munud diolch i Jason Oswell, ond yr ymwelwyr gipiodd y triphwynt toc wedi’r awr wrth i Mike Hayes rwydo.