Mae Gwlad yr Iâ wedi codi lefel y rhybudd ynglyn â ffrwydriad y llosgfynydd Bardarbunga i goch, gan awgrymu’n gry’ fod y ffrwydriad ar fin digwydd, neu hyd yn oed wedi dechrau.

Yn ystod yr wythnos ddiwetha’, mae miloedd o ddaeargrynfeydd bychan wedi bod yn ysgwyd yr ardal sy’n ddyfn o dan rewlif mwya’r wlad, Vatnajokull.

Yn 2010, fe achosodd ffrwydriad y llosgfynydd Eyjafjallajokul i gwmwl enfawr o ludw godi i’r awyr, ac fe fu’n rhaid i 100,000 o ehediadau o feysydd awyr ar hyd a lled y byd, gael eu canslo.