Mae naw o filwyr wedi’u lladd mewn ymladd dros-nos ar strydoedd dinas Donetsk yn nwyrain yr Wcrain.
Mae llywodraeth y wlad yn ymladd i geisio cael rheolaeth o reilffordd a phriffordd pwysig sy’n cysylltu’r ardal gyda Rwsia.
Mae ymdrechion y llywodraeth i geisio adennill Donetsk yn canolbwyntio ar amgylchynu Donetsk, ynghyd a thrio hel y gwrthryfelwyr sy’n deyrngar i Rwsia allan o ddinas Luhansk.
Fe ddaeth cadarnhad heddiw fod naw o filwyr o ddwy gatrawd wirfoddol wedi cael eu lladd yn ardal Ilovaysk neithiwr. Fe gafodd 22 o filwyr eraill eu hanafu.