Fe fyddai Alex Salmond yn fodlon  “ymddeol o wleidyddiaeth yfory” pe byddai hynny’n golygu gallu sicrhau pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm annibyniaeth ar Fedi 18.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban y byddai’n rhoi’r gorau i’w yrfa wleidyddol a gweld yr SNP yn cael ei diddymu os mai dyna fyddai pris annibyniaeth i’w wlad.

Mae fideo o gyfarfod yn Arbroath yn ei ddangos yn siarad am amserlen annibyniaeth gan drafod senario lle y byddai’n camu i’r naill ochr.

Wrth gyfeirio at mytholeg Groegaidd a’r profffwyd o’r Alban, Brahan Seer, yn y 17eg ganrif, dywedodd: “Os byddai’r oracle Delphic neu ddewin, y Brahan Seer, yn eistedd yn y gynilleidfa a byddai’r Brahan Seer yn dweud wrtha i, ‘Gwrandewch, os ydych chi’n ymddeol o wleidyddiaeth yfory ac rwy’n sicrhau y byddai’r Alban yn wlad annibynnol yng Ngwanwyn 2016’, yna byddwn i’n ysgwyd llaw ar hynny’n syth – yn sicr.

“Os byddai Brahan Seer yn dweud wrtha i, ‘A’r gost i gael annibyniaeth yw bod yn rhaid i’r SNP gael ei diddymu’ byddwn i yn cytuno i hynny hefyd, oherwydd mae hyn am bobol yr Alban am y tro cyntaf yn hanes eu democratiaeth gyda’r gallu i benderfynu ar ei llywodraeth ei hun.

“Dewis pobol yr Alban yw hwn a dyna yw’r peth pwysig.”

Gwrando

Yn ôl Prif Strategydd ymgyrch Ie i’r Alban, Stephen Noon, a gychwynnodd ei yrfa wleidyddol yn swyddfa San Steffan Alex Salmond, mae sylwadau’r Prif Weinidog yn “siarad drostyn nhw eu hunain ac maen nhw’n bwerus iawn. Fe ddylai pobol wrando.

“Mi weithiais i iddo am gyfnod hir o fy mywyd fel oedolyn ac rwy’n gwybod ei fod e galon ac enaid yn ymroddedig i Alban annibynnol oherwydd dyna yw’r dyfodol gorau i bawb sy’n byw yma – a phleidlais Ie fyddai’r cyfle gorau y caiff pobol yr Alban i droi’r wlad gyfoethog hon yn gymdeithas gyfoethog.”

Dangosodd arolwg barn diweddar YouGov bod 45% o Albanwyr yn credu mai Alex Salmond yw’r dyn anghywir i arwain yr ymgyrch dros annibyniaeth.