Rhodri Trefor (llun: S4C)
Fe fyddai un o awduron buddugol Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr wedi hoffi’r cyfle i drafod yn hytrach na gweld ei waith wedi’i gadw allan o gyfrol y Cyfansoddiadau.
Yn ôl yr actor Rhodri Trefor, fe fyddai wedi bod yn fodlon sensro rhywfaint ar y gwaith er mwyn iddo gael ei gynnwys.
Does dim esboniad manwl pam nad yw’r monologau a enillodd wobr gynta’ a £150 i Rhodri Trefor o Gaerdydd, ddim wedi eu cynnwys gyda gweithiau buddugol eraill.
Y cyfan sy’n cael ei ddweud yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, ar waelod y feirniadaeth sy’n dyfarnu’r wobr i’r ymgeisydd sy’n dwyn y ffugenw Wil.Ai.Fam, ydi: “Nid yw’r Eisteddfod yn ystyried bod y deunydd arobryn yn addas, am wahanol resymau, i’w gyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.”
Deall
Mae Rhodri Trefor yn dweud ei fod, ar un llaw, yn “deall” pam fod y brifwyl wedi dewis peidio â chyhoeddi’r gwaith. Ar y llaw arall fe fyddai wedi gwerthfawrogi trafodaeth.
Ond ni chafodd wybod am benderfyniad y trefnwyr i beidio â chyhoeddi ei waith, tan ddiwrnod y gwobrwyo yn y Babell Lên yn Llanelli.
“Mae un (fonolog) am gymeriad tywyll iawn, Iori, sydd gyda thueddiadau treisgar,” meddai Rhodri Trefor wrth golwg360. “Mae’n gymeriad di-emosiwn, heb gydwybod, sydd ar fin gweithredu ar ei ysfa.
“Mae’r fonolog arall am hogyn ifanc, hapus ei fyd, yn disgwyl am fws rhif 42. Er bod y fonolog gyntaf yn dywyll o ran pwnc, dw i’n teimlo mai’r ail yw’r lleiaf addas i’w hargraffu.
“Roedd un fonolog yn benodol yn cynnwys iaith gref yn ogystal â chyfeiriadau rhywiol, anweddus. Mae’n debyg y gallasai’r cynnwys beri gofid i rai darllenwyr,” meddai wedyn.
“Ond mi fyddai wedi bod yn dda cael sgwrs gyda’r Eisteddfod i drafod opsiynau eraill fel cynnwys fy nghyfeiriad e-bost rhag ofn bod gan rhywun ddiddordeb mewn darllen y gwaith neu ei argraffu mewn man arall.
“Mi faswn hefyd wedi bod yn fodlon cael y cyfle i sensro’r gwaith fel bod modd ei gynnwys,” meddai Rhodri Trefor.
Beirniad yn canmol iaith “addas”
Daeth yr awdur, sy’n wreiddiol o Langefni, i’r brig yn y gystadleuaeth i lunio dwy fonolog wrthgyferbyniol, heb fod yn hwy na 4 munud yr un. Y beirniad oedd Siwan Jones, awdures cyfresi teledu fel Con Passionate a Tair Chwaer.
Yn ei beirniadaeth, mae hi’n dweud fod “tôn ac arddull y ddwy fonolog yn llwyddiannus o wrthgyferbyniol. Drwy rythm herciog y cymalau, daw cymeriad Iori yn fyw ac mae adeiladwaith y fonolog yn ein harwain at y diweddglo sinistr… Mae ieithwedd Jason yn gwbl addas hefyd yn yr ail fonolog…”
Roedd bosus y brifwyl, yn amlwg, yn credu fel arall.
Ond dyw hyn ddim wedi gwneud i Rhodri Trefor droi ei gefn ar yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Dw i’n gefnogol iawn i waith yr Eisteddfod,” meddai. “Mae’n blatfform gwych i ysgrifenwyr a pherfformwyr. Dydi’r penderfyniad yma i beidio ag argraffu fy ngwaith ddim yn mynd i fy rhwystro rhag cymryd rhan eto.”
Golygydd yn dweud dim
Mae Golygydd y gyfrol Cyfansoddiadau wedi gwrthod ymateb i’r stori, gan gyfeirio pob ymholiad at Brif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.
“Bydd raid i chi holi Elfed Roberts ar ran yr Eisteddfod,” meddai. “Ond mae’n nodi yn yn y gyfrol pan nas cyhoeddwyd y gwaith.”
Mae golwg360 wedi cysylltu ag Elfed Roberts hefyd, ond heb dderbyn ymateb eto.