Aberteifi
Mae gŵyl Mas Mas oedd wedi ei threfnu ar gyfer Awst 28 ar lan afon Teifi wedi cael ei chanslo.

Daeth y cyhoeddiad ar gyfrif twitter y gantores Cate le Bon, un o drefnwyr yr wyl, lle dywedodd hi hefyd ei bod yn “drist iawn” na fydd posib i’r ŵyl fynd yn ei blaen.

Mewn datganiad <http://catelebon.com/post/95177934042/rivers-edge-announce-cancellation-of-mas-mas-festival>llawn ar ei gwefan, dywedodd bod lleoliad River’s Edge, lle’r oedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal, wedi methu cael trwydded adloniant i’r digwyddiad ac nad oes modd ei ail-drefnu.

Roedd Euros Childs, Gwenno a Castro ymhlith yr enwau oedd yn mynd i ymddangos yno.

Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn ar gyfer yr ŵyl dderbyn ad-daliad o fewn y pum diwrnod nesa’.