Danny Alexander, Ysgrifennydd y Trysorlys
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi eu bod am roi £1 miliwn yn ychwanegol at ddarlledu yn yr iaith Aeleg.
Bydd MG Alba, sy’n gyfrifol am redeg BBC Alba mewn cydweithrediad â’r BBC, yn derbyn yr arian ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa’.
Wrth wneud y cyhoeddiad fis cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban, fe ddywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, fod y wlad yn derbyn mantais o fod yn wlad ddatganoledig o fewn y Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd: “Fel rhywun wnaeth dyfu fyny yn yr ynysoedd, rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r gwasanaeth i siaradwyr Gaeleg ledled yr Alban ac eisiau ei weld yn parhau.
“Mae’r iaith yn rhan bwysig o dreftadaeth y wlad, felly mae ond yn iawn fod Llywodraeth Prydain yn helpu.
“Mae hyn yn dangos sut y mae’r Alban yn cael y gorau o ddau fyd – mae cymorth gan Lywodraeth Prydain yn ogystal a datganoli yn golygu y gellir gwneud buddsoddiadau go iawn mewn gwasanaethau cyhoeddus a bod hyblygrwydd i’w wario lle bo’r angen.”