Ar gân ddiweddara’r Welsh Whisperer mae’r canwr caneuon digri o’r de yn dweud yn blwmp ac yn blaen nad ydy o am brysuro i Bowys.

Lle sy’n edrych yn llawn hen gestyll a defaid yw’r sir yn ôl Andrew Walton, y llanc y tu ôl i enigma’r Welsh Whisperer. Ar y gân ‘Sai ishe mynd i Bowys!’ mae’n canu nad ydy o erioed wedi cyfarfod â neb o’r pen yna o’r byd.

Meddai wrth golwg360: “Ar ol teithio Cymru digon a chwrdd â nifer o bobol, am ryw reswm dw i byth yn cwrdd â phobol o’r canolbarth. Felly oeddwn i’n meddwl y basa fe’n eithaf doniol cael bach o hwyl gyda hynny mewn cân.”

Ar gyfer y sengl newydd mae wedi cyplysu ei eiriau gwreiddiol gydag alaw ‘La bamba’ gan Ritchie Valens.

Mae’r athro 26 oed wrthi’n prysur gwneud enw iddo’i hun fel canwr caneuon gwerin tafod yn y boch, ac wedi bod yn chwarae yn rhai o brif wyliau Cymru dros yr haf hefo’r “big dogs”, fel mae’n galw artistiaid fel Elin Fflur a Bryn Fôn.

“Mae pobol yn chwerthin, dyna’r peth pwysig. Smo nghaneuon i’n mynd i newid bywydau bobol, ond mae e’n bach o laff.”

Comedi ar y radio

Wrth i bethau fynd o nerth i nerth yn dilyn rhyddhau ei albwm gyntaf, Plannu Hedyn Cariad, mae Andrew Walton yn dweud ei fod yn ystyried cychwyn rhaglen radio ar lein ei hun.

“Mae yna sioeau dw i’n weld yn ddoniol iawn ar y radio fel sioe Tudur Owen ac mae Tommo yn cynnig math o hiwmor sy’n siwtio mwy o bobol yn y de orllewin. Hoffwn ychwanegu at hwnna gan gynnig sioe hwylus a llawn cerddoriaeth Cymraeg.

“Byddai’n neis cael fflicio i orsaf arall, heblaw am y gorsafoedd mawr Saesneg, os nad ydych chi eisiau gwrando ar unrhyw sioe yn benodol ar y gwasanaeth cenedlaethol.

“A dw i’n falch o ddarllen erthygl golwg360 am Betsan Powys yn croesawu gorsaf radio arall ar y BBC. Mae angen mwy o bopeth ar Gymru er mwyn symud ymlaen yn naturiol.”

Gwrandwch i ‘Sai ishe mynd i Bowys!’ yma: