Mae milwyr y wladwriaeth yn gwarchod senedd Pacistan heddiw, wedi i wrthdystwyr yn erbyn y llywodraeth addo feddiannu’r adeilad yn y brifddinas, Islamabad.
Fe ddaeth y penderfyniad i alw ar y fyddin i amddiffyn yr adeilad, yn dilyn cyfarfod dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog Nawaz Sharif.
Ef yw’r dyn y mae’r gwrthwynebwyr yn protestio yn ei erbyn, ac yn ei gyhuddo o gipio grym yn anghyfreithlon yn etholiad y llynedd.
Mae sianeli teledu ym Mhacistan wedi darlledu lluniau byw o’r milwyr yn cymryd eu lle o gwmpas yr adeilad lle mae cartrefi seremoniol y prif weinidog a’r arlywydd.
Mae tua 30,000 o brotestwyr yn cefnogi Imran Khan a’i wrthblaid, Tahir-ul-Qadri.
Yn y cyfamser, mae Gweinidog Materion Cartref y wlad, Nisar Ali Khan, wedi galw ar i’r protestwyr wrthdystio’n heddychlon.
“Fyddwn ni ddim yn goddef unrhyw drais,” meddai Nisar Ali Khan.