Darn o awyren MH17, Malaysia Airlines
Bydd gweddillion o leiaf 15 o bobl o Malaysia a fu farw pan blymiodd awyren i’r ddaear dros yr Wcrain, yn cael eu dychwelyd adref yr wythnos hon.
Bu farw 298 o bobol ar fwrdd yr awyren Malaysia Airlines pan gafodd ei tharo gan daflegryn ar Orffennaf 17. Yr oedd yr awyren ar ei ffordd i Kuala Lumpur o Amsterdam.
O blith y bobol a fu farw, roedd 43 yn hanu o Malaysia, gyda 195 yn bobol o’r Iseldiroedd.
Mae’r ymgyrch i ganfod y cyrff wedi profi’n anodd wrth i’r ymladd barhau rhwng lluoedd diogelwch yr Iwcraen a’r gwrthryfelwyr, ger safle’r ddamwain.
Mae’r gwrthryfelwyr sy’n ffyddlon i Rwsia wedi cael ei beio am danio’r taflegryn a ddaeth a’r Boeing 777 i’r ddaear ond maent wedi gwadu cyfrifoldeb. Mae’r Iseldiroedd ymhlith gwledydd eraill wedi lansio ymchwiliad troseddol.
Mae’r llywodraeth ym Malaysia wedi cyhoeddi y bydd dydd Gwener nesa’ yn ddiwrnod o alar cenedlaethol.