Mae dau ddyn wedi’u cadw yn y ddalfa yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael eu cyhuddo o hanner cant o droseddau o fasnach pobol a gorfodi pobol i weithio’n groes i’w hewyllys.
Fe ymddangosodd Ioan Lacatus, 31, a Samuil Covaci, 23, ill dau o Portadown, gerbron Llys Ynadon Lisburn fore heddiw.
Fe gafodd y ddau eu harestio fel rhan o ymgyrch fawr gan yr heddlu a ddaeth o hyd i 20 o ddioddefwyr yn Co Armagh.
Mae’r dioddefwyr hynny – 14 o ddynion a 6 o ferched – fel y ddau ddiffynnydd, yn dod o Romania ac yn amrywio o ran eu hoedran, o 20 i 48.