Mae’r Fatican wedi cyhoeddi fod dau o or-neiaint y Pab wedi’u lladd mewn damwain car yn yr Ariannin, ynghyd a’u mam, sef nith y Pab.

Fe ddigwyddodd y ddamwain fore heddiw yn ardal dinas Cordoba. Roedd un o’r bechgyn bach yn ddwyflwydd oed, a’r llall yn wyth mis oed.

“Mae’r Pab wedi cael gwybod am y ddamwain drasig,” meddai llefarydd ar ran y Pab, “ac mae wedi’i frifo’n ofnadwy.

“Mae Ffransis yn gofyn i bawb sy’n rhannu yn ei alar i weddio gydag ef ac ar ei ran.”