Mae byddin Pacistan yn dweud ei bod hi wedi lladd 48 o wrthryfelwyr honedig mewn dwy ardal lwythol ger Afghanistan.

Mewn datganiad, mae’r fyddin yn dweud fod hofrenyddion wedi ymosod o’r awyr ar guddfannau’r gwrthryfelwyr yn ardaloedd y Khyber a Gogledd Waziristan.

Mae’r fyddin wedi bod yn ymladd gwrthryfelwyr yng Ngogledd Waziristan ers Mehefin 15, pan lawnsiwyd ymgyrch fawr er mwyn cael gwared ar y rheiny oedd yn trefnu ymosodiadau terfysgol honedig ym Mhacistan ac Afghanistan.

Mae lluoedd Pacistan yn dweud eu bod, hyd yma, wedi lladd cyfanswm o 600 o wrthryfelwyr yn yr ardal honno, ac wedi colli 25 o’u milwyr eu hunain yn yr arfaeth.

Mae tua 800,000 o bobol gyffredin wedi gadael eu cartrefi ers i’r ymladd ddechrau.