Fe fydd teithwyr trên yn talu costau uwch o 2015 ymlaen, wrth i brisiau tocynnau gynyddu 3.5% ar gyfartaledd.
Mae’r cynnydd yn cael eu seilio ar Fynegai Prisiau Manwerthu (Retail Price Index) – oedd yn 2.5% ym mis Gorffennaf – yn ogystal â 1% ar ben hynny.
Ond yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, nid oes modd cyfiawnhau’r cynnydd am nad yw’r gwasanaeth i deithwyr ar hyn o bryd yn ddigon da.
Mae Llafur hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o ecsbloetio teithwyr, ond mae’r llywodraeth wedi amddiffyn y cyhoeddiad.
‘Cael cam’
Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar drafnidiaeth, Eluned Parrot:
“Mae teithwyr trên yn teimlo eu bod nhw’n cael cam.
“Mae’r gwasanaethau yn aml yn llawn, yn llai glan nag y dylen nhw fod a does dim gwasanaethau diwifr a system awyru i’w gael.
“Os yw cwmnïau trên am gynyddu eu costau, mae’n rhaid iddyn nhw ddangos i’r cwsmeriaid eu bod am wella’r gwasanaeth.”