Mae Gwlad yr Iâ yn paratoi ei thrigolion a’r byd ehangach rhag ffrwydriad llosgfynydd.

Fe ddaw’r rhybudd wedi cyfres o ddaeargrynfeydd yn ardal Bardabunga, llosgfynydd sydd o dan rhewlif mwya’r wlad.

Mae ffyrdd wedi’u cau, rhag ofn i’r ffrwydriad achosi llifogydd.

Mae gwyddonwyr yn dweud y gallai dau beth ddigwydd: y cynta’ fasa ffrwydriad oddi allan i rewlif Vatnajokull, gan arwain at gymylau o ludw a allai achosi trafferthion lleol.

Yr ail fyddai echdoriad oddi mewn, a’r pryder mwya’ gyda hynny ydi y byddai lludw’n cael ei yrru’n uchel i’r atmosffêr.

Yn 2010, fe gafodd cymylau o ludw o losgfynydd yng Ngwlad yr Iâ effaith ar y byd i gyd, trwy lorio nifer o awyrennau a rhwystro miliynau o deithwyr rhag gallu hedfan.