Mae ffrwydriad mewn gwaith glo yn nwyrain China wedi caethiwo 29 o weithwyr dan ddaear.
Mae tua 30 o weithwyr achub wedi bod yn ceisio cyrraedd y gweithwyr sydd wedi’u dal yn gaeth yn y gwaith glo preifat yn ninas Huainan yn nhalaith Anhui. Maen nhw ar hyn o bryd yn aros am ragor o offer achub.
Fe lwyddodd deg o lowyr i ddianc wedi’r ddamwain. Mae un wedi’i anafu.
Yn ôl teledu’r wlad, mae llywodraeth China wedi gorchymyn cau y lofa ddwywaith ers mis Mehefin, ond mae wedi dal ati i weithredu. Roedd y rhan fwya’ o’r glowyr sy’n sownd dan ddaear yn eu 40au.