Mae 21 o bobol wedi’u lladd wedi i drên daro rickshaw gorlawn ar groesfan yn nwyrain India.

Bu farw gyrrwr y rickshaw, yn ogystal â phob un o’r teithwyr, yn y ddamwain yn nhalaith Bihar.

Roedd giât y groesfan ar agor, ac fe groesodd y rickshaw pan ddaeth y trên.

Mae saith o blant a chwech o wragedd ymhlith y rhai sydd wedi’u lladd. Roedden nhw’n dychwelyd o gyfarfodydd gweddi mewn teml ger tre’ Motihari.