Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff dynes gael ei ganfod mewn gardd.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i gartref yn Wigan Road, Leigh, Greater Manchester, toc wedi hanner nos neithiwr, gan aelod o’r cyhoedd a oedd yn poeni am y ddynes.
Dyw corff y fenyw ddim wedi’i adnabod yn swyddogol eto, ond y gred ydi mai corff dynes yn ei 50au hwyr neu ei 60au cynnar ydi o. Fe fydd prawf post mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw.
Mae dyn 57 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae’n parhau i gael ei holi yn y ddalfa.