Mae dyn wedi’i gyhuddo o gynnau tân a arweiniodd at symud pobol o’u cartrefi mewn bloc o fflatiau.

Fe gafodd ymladdwyr tân eu galw i ddau ddigwyddiad gwahanol yn London Road, Westcliff, Essex, yn hwyr nos Sul ac yn ystod oriau mân bore ddoe.

Heddiw, fe gyhoeddodd Heddlu Essex fod dyn digartref o’r enw Sam Brown, 26, wedi’i gyhuddo o gynnau tân gyda’r bwriad o roi bywydau mewn peryg.

Mae wedi ei gadw yn y ddalfa, ar gyfer ymddangos gerbron Llys Ynadon Southend heddiw.