Mae Llywodraethwr talaith Missouri wedi galw’r Gwarchodlu Cenedlaethol i glirio pobol o’r strydoedd yn dilyn wythnos o brotestio wedi marwolaeth bachgen croenddu.

Mae cannoedd o bobol yn dal i brotestio ar strydoedd ardal Ferguson yn St Louis, ar ol i Michael Brown gael ei saethu gan blismon croenwyn.

Mewn datganiad dywedodd y llywodraethwr Jay Nixon mai’r bwriad wrth orchymyn y Gwarchodlu Cenedlaethol yw i “helpu adfer heddwch a threfn” i faestref Ferguson.

Datgelodd prawf post mortem fod yr hogyn 18 oed wedi’i saethu o leiaf wyth gwaith, ynghyd â dwywaith yn ei ben.

Mae’r “amgylchiadau anarferol” yn dilyn marwolaeth Mr Brown , a chais gan ei deulu wedi esgor ar yr weinyddiaeth gyfiawnder i orchymyn trydedd post mortem a fydd yn cael ei gynnal cyn gynted a phosibl.

Ond, wrth iddi noswylio yn Ferguson, cafwyd gwrthdrawiadau ffyrnig pellach rhwng yr heddlu a phrotestwyr, gyda adroddiadau o swn gynnau yn saethu, lladrata a fandaliaeth. Fe fu protestwyr hefyd yn taflu bomiau petrol at yr heddlu.

Mae’r FBI wedi anfon deugain o swyddogion i Ferguson i hel tystiolaeth a dod o hyd i lygad-dystion.