Cyhoeddwyd heddiw bod cangen undeb Unsain Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymryd pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn rheolwyr Ysgol Archesgob McGrath.
Cafodd y bleidlais, oedd yn unfrydol, ei chymryd mewn cyfarfod ar 11 Awst ac mae’n dilyn blynyddoedd o anghydfod rhwng Unsain â rheolwyr a llywodraethwyr yr ysgol uwchradd, yn ôl yr undeb.
Rhai o bryderon mwyaf Unsain oedd mesuron iechyd a diogelwch yr ysgol, bwlio a bod aelodau o’r staff cynorthwyol yn cael eu trin yn anffafriol.
Ac fe ddywedodd Trefnydd Rhanbarthol Unsain, Andrew Woodman, fod Ysgol Archesgob McGrath wedi trin y pryderon hyn yn ddirmygus:
“Mae Unsain ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn credu nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis arall ond condemnio rheolaeth ac ymarferion Ysgol Archesgob McGrath yn gyhoeddus.
“Rydym wedi ceisio mynd i’r afael a’r pryderon trwy ddefnyddio polisi’r ysgol ond yn anffodus mae’r rheolwyr a’r Llywodraethwyr yn rhwystro hyn rhag digwydd. Rydym yn credu y gall hyn gael effaith ddifrifol ar y gweithlu ac ar ddisgyblion yr ysgol.
“Mae diffyg cyfathrebu wedi bod gan yr ysgol mewn ymateb i’r materion yr ydym wedi eu codi ac mi faswn i’n mynd cyn belled a dweud bod yr ysgol wedi trin pryderon Unsain gyda dirmyg.
“O ganlyniad, mae diwylliant o safon ddwbl wedi datblygu lle mae’r staff cynorthwyol yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r staff dysgu ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.”
Ychwanegodd Andrew Woodman: “Fe fydd Unsain yn mynd a’r mater ymhellach yn gyhoeddus er mwyn ceisio dod o hyd i ateb.”