Y brotest ar Ffordd Fabian, Abertawe
Mae Heddlu De Cymru wedi eu galw i brotest gwrth-ffracio ar safle adeiladu yng Nghastell-nedd y bore yma.
Dywed yr heddlu fod wyth o ymgyrchwyr wedi torri mewn i’r safle ar Ffordd Fabian, fydd yn cael ei agor fel campws newydd Prifysgol Abertawe yn 2016, a bod tagfeydd sylweddol yn yr ardal oherwydd nad yw cerbydau wedi medru cael mynediad i’r safle.
Yn ôl adroddiadau gan y BBC, mae’r gwrthwynebwyr yn rhan o grwp Reclaim the Power sy’n protestio yn erbyn bwriad y brifysgol i gynnal ymchwil i ffracio.
Credir bod rhai o’r gwrthwynebwyr wedi cadwyno eu hunain i’r safle adeiladu.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru:
“Mae Heddlu De Cymru yn bresennol mewn protest ar safle adeiladu Ffordd Fabian yng Nghastell Nedd.”
“Rydym yn cydnabod yr hawl i gynnal protest heddychlon ac fe fyddwn yn gweithio gyda’r protestwyr i geisio lleihau unrhyw aflonyddwch i’r gymuned ac i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”