Julian Assange
Mae sylfaenydd WikiLeaks wedi dweud y bydd yn “gadael y Llysgenhadaeth yn fuan”.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg yn Llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain, mae Julian Assange wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y lle sydd wedi rhoi lloches iddo am dros ddwy flynedd.

Mae’r Awstraliad 43 oed yn dweud ei fod wedi dod i’r penderfyniad o’i ben a’i bastwn ei hun, “nid oherwydd yr hyn sy’n cael ei adrodd ym mhapurau Murdoch”, ond wnaeth o ddim ymhelaethu.

Mae Julian Assange wedi bod yn byw yn y Llysgenhadaeth fel rhan o’i gynllun i osgoi cael ei ystraddodi i Sweden, lle mae yna warant i’w arestio tros honiadau o droseddau rhywiol yn erbyn dwy ddynes.