Mae’r ddwy ochr yn y trafodaethau heddwch rhwng Israel a’r Palesteiniaid wedi mynd ben-ben, wrth i ddiwedd y cadoediad pum niwrnod agosau.
Er hynny, mae’r ddwy ochr i weld yn amharod i ddychwelyd at y rhyfel sydd wedi chwalu Gaza dros y mis diwetha’.
Mae mwy na 1,000 o Balesteiniaid wedi’u lladd, a 67 o Israeliaid.
Ers yr wythnos ddiwetha’, mae trafodaethau anuniongyrchol wedi bod yn digwydd yn Cairo, prifddinas yr Aifft, mewn ymdrech i roi diwedd ar y brwydro tros Gaza.
Ddoe, fe ail-gydiodd y ddwy ochr yn y trafodaethau yn dilyn cyfarfodydd gyda gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol… ond mae bwlch mawr rhwng y naill ochr a’r llall.
Gofynion
Mae’r Palesteiniaid yn galw am warant y bydd Hamas a grwpiau gwrthryfelgar yn cael cadw eu harfau. Mae’r Palesteiniaid hefyd yn galw am ddiwedd i’r blocad sy’n rhwystro mynd a dod, a masnachu, rhwng Gaza a’r byd tu allan.
Mae’r cadoediad yn dod i ben am hanner nos heno (9yh ein hamser ni), ond mae disgwyl iddo gael ei ymestyn os na fydd y ddwy ochr wedi dod i gytundeb.