Mae canlyniadau pol piniwn newydd yn awgrymu bod cynnydd wedi bod yn y nifer o bobol sy’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban.

Gyda mis union i fynd tan refferendwm Medi 18, mae’r gefnogaeth i’r bleidlais ‘Ie’ wedi codi, meddai’r arolwg gan YouGov i bapur newydd The Times.

Er hynny, mae’r garfan ‘Na’ yn dal i fod 14 o bwyntiau ar y blaen.

Y canlyniadau

‘Ie’ – 43%, ‘Na’ – 57%.

Yn gynharach eleni, roedd arolwg tebyg gan YouGov yn adrodd for 39% o blaid Annibyniaeth, a 61% yn dweud ‘Na’.

Fe gafodd dros 1,000 o bobol eu holi rhwng Awst 12 a 15 eleni, ac mae’n dangos hefyd fod cynnydd wedi bod yn y nifer sy’n credu y byddai Alban annibynnol yn well allan – o 27% i 32%.

Mae canran y bobol sy’n credu y byddai’r wlad yn waeth allan yn dilyn pleidlais ‘Ie’ wedi cwympo o 49% i 46%.