Mae cwmni Coastal Housing wedi prynu safle ger y dŵr yn Abertawe, gyda’r bwriad o greu datblygiad tai fforddiadwy gwerth £5.5m.

Cafodd y safle, sy’n cael ei alw yn SA1, ei werthu gan Lywodraeth Cymru am £720,000 ac mae disgwyl y bydd fflatiau un neu ddwy ystafell wely yn cael eu codi yn ogystal â 27 o dai tair neu bedair ystafell wely.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, y byddai’r gwaith adeiladu yn dechrau o fewn y ddwy flynedd nesaf ac y byddai cyfleodd hyfforddiant ar gael i bobol leol yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd Gareth Davies, cyfarwyddwr datblygu Coastal Housing sydd eisoes wedi adeiladu dros 150 o fflatiau gerllaw:

“Rydym yn falch iawn o gael cyfle arall i ymwneud a’r datblygiad o’r gwaith yn SA1. Fe fydd yn darparu cartrefi sydd eu gwir angen yn Abertawe – yn rhywle sydd wedi tyfu’n lleoliad poblogaidd iawn i fyw.”