Mae daeargryn cry’ wedi ysgwyd ardal fynyddig ger y ffin rhwng Iran ac Irac.
Ychydig iawn o bobol sy’n byw yn yr ardal honno, a does dim adroddiadau am farwolaethau. Er hynny, fe gafodd rhai pobol eu hanafu yn y digwyddiad, ac mae yna beth difrod wedi’i achosi.
Fe darodd y daeargryn dre’ Murmuri, 310 milltir i’r de-orllewin o’r brifddinas, Tehran, am 7.02yb heddiw (3.32yb ein hamser ni).
Fe deimlwyd y cryniadau hefyd mewn taleithiau nesa’ at Murmuri, ond dyw hynny ddim yn sioc i bobol Iran. Gan fod y wlad yn eistedd ar gyfres o ffawtiau, mae’n cael ei siglo gan ddaeargryn ryw ben bob dydd.
Yn 2003, fe chwalwyd dinas Bam gan ddaeargryn a oedd yn mesur 6.6.