Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi pecyn cyllid o £6.4m i gefnogi hosbisau a darparu gofal lliniarol ledled Cymru
.
Bydd y cyllid newydd ar gyfer 2014/15 yn cael ei roi i hosbisau a Byrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod ymgynghorwyr arbenigol, nyrsys a chymorth iechyd arall ar gyfer gofal lliniarol ar gael ym mhob rhan o’r wlad.
Mae gofal lliniarol yn canolbwyntio ar leddfu ac atal dioddefaint i gleifion, gan gynnwys y rheini sy’n agosáu at ddiwedd oes. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, nyrsys, seicolegwyr a gweithwyr cymdeithasol, yn cydweithio i leddfu dioddef ym mhob rhan o fywyd claf.
Cadw urddas
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diwedd Oes gyda’r nod o leihau anghydraddoldebau mewn gofal diwedd oes a chadw urddas unigolyn yn nyddiau olaf oes.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £2.6m yn benodol ar gyfer gofal lliniarol y mae hosbisau sector gwirfoddol yn ei ddarparu, a chyllid o £3.828m ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol.
Gofal Cymru gyfan
“Waeth lle mae cleifion yn byw yng Nghymru, wrth agosáu at ddiwedd oes dylent gael gofal a chymorth da yn gyson,” meddai Mark Drakeford.
“Mae cynnydd mewn meddygaeth a thriniaeth fodern yn golygu bod mwy o bobl yn byw’n hwy gyda chlefydau nad oes modd eu gwella.
“Os yw unigolyn am farw mewn ysbyty, mewn hosbis neu yn eu cartref, rydyn ni’n darparu cyllid i sicrhau bod lefel briodol o gymorth proffesiynol a thyner ar gael.
“Lle mae marwolaeth i’w ddisgwyl, mae’n rhaid i ni fod yn barod i gael sgyrsiau gonest ac agored am ddiwedd oes. Ddylai marwolaeth ddim bod yn dabŵ. Mae paratoi a chynllunio ar gyfer diwedd oes gyda’r teulu, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn hanfodol o ran darparu gofal o ansawdd uchel.”