Mae dau o ddynion a gafodd eu harestio yn dilyn marwolaeth dyn o ganlyniad i drywanu ar gwrs pêl-fasged, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Fe ddioddefodd Nicholas Stewart, 25, ymosodiad yn St John’s Drive, Wandsworth, de-orllewin Llundain, nos Fercher ddiwetha’, a bu farw yn y fan a’r lle.

Mae prawf post mortem wedi dangos iddo farw o ganlyniad i gael ei drywanu yn ei goes ac yn ei frest.

Fe gafodd dau ddyn, 23 oed, eu harestio yn eu cartrefi yn ystod oriau mân bore ddoe (dydd Sadwrn), ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Daeth cadarnhad o Scotland Yard fod y naill wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan yn ddiweddarach y mis hwn, ac mae’r llall ar fechnïaeth tan ddyddiad yn nechrau mis Medi.

Fe gafodd trydydd dyn, 24 oed, ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl ymddangos gerbron Llys Ynadon Bromley ddoe.