Ydi, mae Prifysgol Caergrawnt yn chwilio am fyfyriwr PhD sy’n fodlon ymgymryd â swydd ddelfrydol ar gyfer y sawl sydd â dant melys – er mwyn gwneud astudiaeth o siocled.
Bwriad y prosiect ymchwil tair blynedd – sydd eisoes wedi’i ariannu’n llawn – yw edrych ar sut y gellir cadw siocled yn soled pan y mae’n cael ei storio a’i werthu mewn gwledydd poeth.
Fe fydd y rhan fwya’ o’r gwaith, sy’n cael ei arolygu gan academyddion sydd â blynyddoedd o brofiad o astudio soledau meddal, yn arbrofol.
Mae’r swydd wedi’i lleoli yn yr Adran Peirianneg Gemegol a Biotechnoleg, ac fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ar ei waith ym mis Ionawr 2015. Mae hysbyseb ar gyfer y swydd, sydd wedi’i osod ar wefan y brifysgol, yn dweud bod angen “sgiliau mathemategol da” ar yr ymchwilydd.