Tony Abbott - Prif Weinidog Awstralia
Fyddai Alban annibynnol ddim o les i’r gymuned ryngwladol, meddai Prif Weinidog Awstralia.
Wrth i’r ymgyrch cyn refferendwm Annibyniaeth Medi 18 dynnu tua’i therfyn, mae Tony Abbott wedi rhybuddio y gallai chwalu’r Deyrnas Unedig wneud drwg i weddill y byd.
“Mae’r hyn mae’r Albanwyr yn ei wneud yn fater i’r Albanwyr, a neb arall,” meddai Tony Abbott ym mhapur newydd The Times heddiw, “ond, fel ffrind i Brydain, ac fel sylwebydd o bell, mae’n anodd gweld sut y byddai’r byd ar ei ennill o gael Alban annibynnol.
“Alla’ i ddim gweld sut mae’r bobol sydd am weld Alban annibynnol yn gyfeillion hefyd i gyfiawnder a rhyddid rhyngwladol,” meddai wedyn.
“Dydi’r gwledydd hynny a fyddai’n gweiddi ac yn dathlu o weld y Deyrnas Unedig yn cael ei chwalu, ddim y gwledydd y baswn i’n hoffi cadw cwmni efo nhw.”