Mae dyn wedi’i arestio yn dilyn achos o ‘road rage’ pan gafodd gwraig 80 oed ei tharo gan gar.

Roedd y wraig wedi bod yn sefyll yn llonydd ger ei char Nissan Micra coch ar gyffordd ar ffordd A268 yn Hawkhurst, Sussex, tua chanol dydd ar Awst 1, pan aeth dyn i mewn i’w char a dechrau ei ddreifio.

Fe gafodd y wraig 80 oed ei tharo i’r ddaear. Fe gafodd ei chludo i ysbyty wedi torri ei throed ac yn diodde’ o anafiadau i’w hwyneb a’i braich.

Mae dyn 45 mlwydd oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod. Mae wedi’i ryddhau ar fechniaeth tan Fedi 15.