Mae pobol sydd wedi goroesi ymosodiad ar bentre’ yng ngogledd Irac, yn dweud fod gwrthryfelwyr o’r grwp Islamic State wedi lladd mwy na 80 o ddynion yno.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad brynhawn ddoe, ym  mhentre’ Kocho – ardal y mae IS yn ei rheoli, ac ardal sy’n rhy beryglus i newyddiadurwyr fynd yn agos iddi.

Yn ol tystion, fe ddaeth y gwrthryfelwyr i’r pentre’ ac aros am ddyddiau, gan roi dedlein i’r pentrefwyr Yazidi i droi at grefydd Islam.

Pan na ddigwyddodd hynny, fe gafodd y dynion ei lladd. Roedd gwragedd a phlant hefyd wedi’u dal yn yr ymosodiad.