Mae dyn wedi marw, ac mae nifer o bobol eraill wedi’u cludo i ysbytai gyda “phroblemau iechyd sylweddol”, wedi i 31 o oedolion   a phlant gael eu canfod mewn bocs cargo yn nociau Tilbury yn Essex.

Mae Ysbyty Basildon wedi cyhoeddi ar ei gyfri’ Trydar ei fod yn “ymateb i ddigwyddiad mawr”.

Mae llefarydd ar ran yr ysbyty wedi cadarnhau ymhellach eu bod yn trin 19 o bobol, a bod 7 o’r rheiny yn blant.

Fe gafodd Heddlu Essex eu galw wedi i bobol gael eu gweld ar ben y bocs a gyrhaeddodd ar long o Zeebrugge yng ngwlad Belg.

Fe gafodd ei ddadlwytho gan yr awdurdodau yn Tilbury.