Mae siarc ‘teigr’ anferth a gafodd ei ddal yng Ngwlff Mecsico wedi cael ei goginio a’i weini i dros 90 o bobl dlawd a digartref.
Cafodd 75 pwys o gig y siarc ei baratoi a’i weini yng nghanolfan Gweinidogaeth Timon yn Corpus Cristi, Tecsas, gan gogydd gwirfoddol.
Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol y ganolfan, Kae Berry, wrth y San Antonio Express-News mai’r siarc hwn, yn mesur 12 troedfedd a saith modfedd, oedd y pysgodyn mwyaf erioed i gael ei roi i’r ganolfan.
Cafodd y siarc ei ddal gan bysgotwr o’r enw Ryan Spring o San Antonio, a ddywedodd ei fod wedi’i ddal ar ôl treulio saith awr yn ei dynnu i mewn.
Dywedodd Berry fod y cogydd gwirfoddol wedi gwneud gwaith gwych o baratoi’r pryd a bod “y rhan fwyaf o bobl wir wedi’i fwynhau”.
Mae digon o gig ar ôl ar gyfer stiw siarc yr wythnos nesaf hyd yn oed, yn ôl y ganolfan.