Gallai pleidlais ‘Na’ yn refferendwm Yr Alban gael effaith wael ar blismona yno.
Dyna farn cyn-uwch swyddog fu’n Gyfarwyddwr Gwybodaeth i Heddlu Strathclyde ac hefyd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl gyda chyfrifoldeb am wrthderfysgaeth yn yr Alban.
“Mae niferoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi cwympo’n gynt nag yn unrhyw le yn Ewrop,” meddai Allan Burnett.
“Fodd bynnag, mae’r Alban yn parhau i elwa o’r nifer mwyaf erioed o swyddogion yn yr heddlu. Byddai pleidlais ‘Na’ yn peryglu hynny.
“Mae niferoedd yr heddlu’n cael eu torri fel rhan o raglen economaidd San Steffan. Mae’n weddol amlwg mai dyma fydd yn digwydd i’r Alban petai pleidlais ‘Na’.”
Ffederasiwn Heddlu’r Alban yn poeni
Cafodd y pryderon hynny eu hategu gan James Fraser, cyn-gadeirydd Ffederasiwn Heddlu’r Alban, a David Ross, cyn-ddirprwy gadeirydd y mudiad.
“Dim ond pleidlais ‘Ie’ fyddai’n sicrhau nad plismona yw’r peth nesaf i ddioddef o feddylfryd toriadau San Steffan,” meddai David Ross.
Dangosodd ffigyrau’n gynharach y mis hwn fod 17,318 o heddweision yn Yr Alban ar 30 Mehefin 2014, cynnydd o 6.7% (neu 1,084 o heddweision) o’i gymharu â 31 Mawrth 2007.