Y gymuned Yazidi ar Fynydd Sinjar
Fe fydd lluoedd Prydain yn gwneud ymdrech arall i ollwng cyflenwadau i filoedd o bobl sy’n gaeth ar fynydd wrth iddyn nhw geisio ffoi rhag ymladdwyr yn Irac.

Mae’n dilyn methiant ymdrech i ollwng cyflenwadau bwyd a diod i’r gymuned  Yazidi ar Fynydd Sinjar ddoe, ar ôl i griw’r Awyrlu benderfynu y byddai’n rhy beryglus i ollwng y pecynnau gan y gallen nhw fod wedi anafu’r bobl oedd yn aros amdanyn nhw.

Bu’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond yn cadeirio cyfarfod brys o’r pwyllgor Cobra i drafod yr argyfwng ddoe. Dywedodd bod y sefyllfa yn “heriol” ac mae wedi rhybuddio am “trychineb dyngarol posib ar raddfa eang.”