Mynwent yn ninas Gaza gafodd ei tharo gan daflegrau Israel (AP Photo/Lefteris Pitarakis)
Mae cynrychiolwyr Palesteinaidd wedi dweud eu bod nhw wedi cytuno i gynnig gan yr Aifft am gadoediad tri diwrnod o hyd yn Gaza.
Mae’r cynrychiolwyr, sy’n dod o garfanau amrywiol o fewn y gymuned Balesteinaidd, wedi dweud mai’r nod yw ail-ddechrau trafodaethau gydag Israel ar gadoediad parhaol yn llain Gaza.
Nos Sul dywedodd Israel eu bod nhw hefyd yn cytuno i gynnig yr Aifft am gadoediad, ond nad oedden nhw am fod yn or-obeithiol ar ôl i’r cadoediad diwethaf ddod i ben yn ddisymwyth.
Ddydd Gwener roedd cynrychiolwyr Israel wedi gadael y trafodaethau yn yr Aifft er mwyn treulio’r Saboth yn Israel, ac ni ddychwelon nhw gan ddweud bod rocedi wedi cael eu tanio o’r newydd at Israel o Gaza.
“Wnawn ni ddim trafod tra’n bod ni’n cael ein tanio ato,” meddai Prif Weinidog Israel Binyamin Netanyahu. Mae Hamas wedi cyhuddo Israel o beidio trin y trafodaethau o ddifrif.
Yn y cyfamser mae tri o Balestiniaid wedi eu lladd gan daflegrau Israel yn Gaza ddydd Sul, gan gynnwys llanc 14 oed a menyw.
Mae Hamas yn galw am ddiwedd ar y blocâd ar lain Gaza sydd wedi dinistrio’r economi er 2007, ond dywed Israel fod y blocâd yn angenrheidiol i atal Hamas rhag mewnforio arfau i Gaza.