Yn dilyn tridiau caled gan y wasg a’r gwrthbleidiau mae Alex Salmond wedi dweud na chaiff neb atal Alban annibynnol rhag defnyddio’r bunt.
Mewn erthygl ym mhapur y Sunday Herald dywed Prif Weinidog yr Alban y byddai unrhyw gynllun i atal yr Alban rhag defnyddio’r bunt hefyd yn ei hatal rhag cyfrannu tuag at ddyledion gwladol Prydain. Mae’r SNP am weld yr Alban yn parhau â’r bunt petai’r ymgyrch Ie yn ennill ar Fedi 18, ond mae pleidiau Llundain yn dweud na fydd hynny’n bosib.
Dywed Ed Miliband y bydd maniffesto’r Blaid Lafur yn 2015 yn cynnwys addewis i atal undod ariannol rhwng yr Alban a gweddill y Deyrnas Unedig, ac yn y ddadl fyw nos Iau honnodd y Llafurwr Alistair Darling nad oes ‘Plan B’ gan Alex Salmond petai Alban annibynnol yn methu â defnyddio’r bunt.
Ond dywed Alex Salmond na fydd hawl gan neb i warafun arian sydd eisoes yn perthyn i’r Albanwyr.
“Os yw’r ymgyrch Na yn credu gallan nhw dreulio gweddill yr ymgyrch yma’n dweud wrth Albanwyr cyffredin nad oes ganddyn nhw hawl i arian sydd eisoes yn perthyn iddyn nhw… yna byddan nhw’n talu pris uchel,” meddai.
Mae disgwyl i Alex Salmond ac Alistair Darling o Better Together fynd ben-ben eto mewn dwy ddadl fyw, o bosib ar deledu Sky a Channel 4. Mae Alistair Darling wedi dweud yn bydd yn parhau i wthio am atebion gan Alex Salmond ar fater undod ariannol, sef tacteg a fu’n llwyddiannus iddo yn y ddadl gyntaf.