Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi pedwar rhybudd llifogydd ar gyfer de Cymru wrth i law a gwyntoedd cryfion beri trafferthion.
Mae’r cynghori pobl i gadw draw o aber Wysg a Gwy yng Ngwent, ac afonydd Llynfi, Ogwr ac Ewenni yn ardal Penybont.
Dros nos disgynnodd 31mm o law yn Aberdaugleddau – y cyfartaledd ar gyfer mis Awst cyfan yw 40mm. Ymhellach i’r gorllewin yn Sir Benfro, mae swyddogion Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi eu galw i dri achos o lifogydd yn Nhŷ Ddewi, ar y Stryd Fawr, Maes Dyfed a phentref Carnhedryn gerllaw.
Mae llifogydd wedi peri trafferthion yng Nghaerdydd hefyd. Mae disgwyl i’r glaw gilio tuag at y dwyrain yn ystod y dydd ond mae disgwyl iddi barhau’n wyntog wrth i gynffon corwynt Bertha daro.