William John Brynley Powell
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi mai ffermwr mynydd lleol oedd y gyrrwr a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llanwrtyd brynhawn Sadwrn.
Roedd William John Brynley Powell yn 90 oed ac yn frodor o blwyf Abergwesyn, rhwng Llanwrtyd a Soar y Mynydd yng ngorllewin Powys.
Dywed yr heddlu ei fod yn “ffermwr mynydd traddodiadol, yn Gymro balch ac yn siaradwr Cymraeg balch, oedd â hoffter o yrru.”
Dywedodd ei deulu ei fod yn gyrru i Lanymddyfri ddwywaith yr wythnos i brynu bara a chael cinio, a’i fod yn dychwelyd oddi yno ddoe.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig cyn 4 o’r gloch brynhawn Sadwrn ac mae Heddlu Dyfed Powys wedi diolch i aelodau’r cyhoedd am stopio i geisio rhoi cymorth i’r bobl a fu yn y gwrthdrawiad.